Pleidleisiau a Thrafodion - Y Cyfarfod Llawn


Lleoliad y cyfarfod:

Y Siambr - Y Senedd

Dyddiad y cyfarfod:
Dydd Mercher, 17 Hydref 2018

Amser y cyfarfod: 13.30
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/
5358


164

------

<AI1>

1       Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg

Dechreuodd yr eitem am 13.30

Gofynnwyd yr 8 cwestiwn cyntaf. Cafodd cwestiynau 3 a 5 eu grwpio i’w hateb gyda’i gilydd. Atebwyd cwestiwn 4 gan Weinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes. Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet a’r Gweinidog ar ôl cwestiwn 2.

</AI1>

<AI2>

2       Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Dechreuodd yr eitem am 14.24

Gofynnwyd cwestiynau 1 - 6 ac 8. Tynnwyd cwestiwn 7 yn ôl. Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet ar ôl cwestiwn 2.

</AI2>

<AI3>

3       Cwestiynau Amserol

Dechreuodd yr eitem am 15.19

Ni ddewiswyd unrhyw Gwestiynau Amserol.

</AI3>

<AI4>

4       Datganiadau 90 Eiliad

Dechreuodd yr eitem am 15.19

Gwnaeth Sian Gwenllian ddatganiad am Mis Hanes Pobl Dduon

Gwnaeth Janet Finch-Saunders ddatganiad am Ganfyddiadau Adroddiad 2018 y Partneriaethau Alcohol Cymunedol

</AI4>

<AI5>

5       Dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv) - Yr Economi Sylfaenol

Dechreuodd yr eitem am 15.22

NDM6782

Lee Waters (Llanelli)
David Melding (Canol De Cymru)
Jenny Rathbone (Canol Caerdydd)
Hefin David (Caerffili)
Adam Price (Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr)
Vikki Howells (Cwm Cynon)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn croesawu ymrwymiad Llywodraeth Cymru i gefnogi sectorau sylfaenol yn ei chynllun gweithredu economaidd ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i fynd ymhellach o ran croesawu egwyddorion yr economi sylfaenol.

2. Yn credu bod dull Cyngor Dinas Preston o adeiladu cyfoeth cymunedol yn amlwg wedi llwyddo i fynd i'r afael ag amddifadedd ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i gwrdd â chynrychiolwyr o Gyngor Dinas Preston i drafod y gwersi y gellir eu dysgu.

3. Yn credu bod Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 yn cynnig cyfle sylweddol i ail-fframio gwerth gorau yng nghyd-destun caffael yng Nghymru, i gefnogi dull yr economi sylfaenol.   

4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddatblygu modelau uchelgeisiol o ofal cymdeithasol i oedolion sy'n cydnabod pwysigrwydd dull lleol ac yn treialu  modelau amgen lluosog o ddarparu gofal, fel rhan o ddull gweithredu yr economi sylfaenol yng Nghymru.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

</AI5>

<AI6>

6       Dadl ar adroddiad Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau: Diwydiant 4.0 - Dyfodol Cymru

Dechreuodd yr eitem am 16.07

NDM6828 Russell George (Sir Drefaldwyn)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn nodi adroddiad Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau ar ei ymchwiliad, 'Diwydiant 4.0 - dyfodol Cymru', a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 17 Awst 2018.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

</AI6>

<AI7>

7       Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Capasiti'r GIG

Dechreuodd yr eitem am 16.56

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:

NDM6829 Darren Millar (Gorllewin Clwyd)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn mynegi pryder am gapasiti GIG Cymru i fodloni'r galw am wasanaethau drwy gydol y flwyddyn, nid dim ond yn ystod misoedd y gaeaf.

2. Yn nodi bod pwysau drwy gydol y flwyddyn yn llesteirio gallu'r GIG i ddarparu mynediad cyson a theg at wasanaethau y tu allan i oriau, gofal critigol ac ambiwlans.

3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddatblygu cynllun cenedlaethol cynhwysfawr i ymdrin â phwysau ar wasanaethau y tu allan i oriau, gofal critigol ac ambiwlans, er mwyn sicrhau bod cleifion yn derbyn gwasanaethau amserol sy'n diwallu eu hanghenion.

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

15

1

34

50

Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio.

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

Gwelliant 1 - Julie James (Gorllewin Abertawe)

Dileu popeth a rhoi yn ei le:

1. Yn cydnabod y gwaith sy’n cael ei wneud i adeiladu capasiti GIG Cymru i fodloni'r galw am wasanaethau drwy gydol y flwyddyn, nid dim ond yn ystod misoedd y gaeaf.

2. Yn nodi bod angen cydnabod a deall y pwysau sydd drwy gydol y flwyddyn, er mwyn hybu gallu’r GIG i ddarparu mynediad cyson a theg at wasanaethau y tu allan i oriau, gofal critigol ac ambiwlans.

3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gefnogi rhoi Cymru Iachach ar waith i ymdrin â’r pwysau ar wasanaethau y tu allan i oriau, gofal critigol ac ambiwlans er mwyn sicrhau bod cleifion yn derbyn gwasanaethau amserol sy'n diwallu eu hanghenion.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

30

1

19

50

Derbyniwyd gwelliant 1.

Gan fod gwelliant 1 wedi’i dderbyn, cafodd gwelliannau 2 a 3 eu dad-ddethol

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig fel y’i diwygiwyd:

NDM6829 Darren Millar (Gorllewin Clwyd)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn cydnabod y gwaith sy’n cael ei wneud i adeiladu capasiti GIG Cymru i fodloni'r galw am wasanaethau drwy gydol y flwyddyn, nid dim ond yn ystod misoedd y gaeaf.

2. Yn nodi bod angen cydnabod a deall y pwysau sydd drwy gydol y flwyddyn, er mwyn hybu gallu’r GIG i ddarparu mynediad cyson a theg at wasanaethau y tu allan i oriau, gofal critigol ac ambiwlans.

3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gefnogi rhoi Cymru Iachach ar waith i ymdrin â’r pwysau ar wasanaethau y tu allan i oriau, gofal critigol ac ambiwlans er mwyn sicrhau bod cleifion yn derbyn gwasanaethau amserol sy'n diwallu eu hanghenion.

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

28

1

21

50

Derbyniwyd y cynnig fel y’i diwygiwyd.

</AI7>

<AI8>

8       Cyfnod pleidleisio

Dechreuodd yr eitem am 18.02

</AI8>

<AI9>

</AI9>

<AI10>

9       Dadl Fer

Dechreuodd yr eitem am 18.04

NDM6830 Lee Waters (Llanelli)

Cyflawni ein hymrwymiadau o ran yr hinsawdd – Cymru 100 y cant adnewyddadwy.

</AI10>

<TRAILER_SECTION>

Daeth y cyfarfod i ben am 18.24

Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Cynulliad am 13.30, Dydd Mawrth, 23 Hydref 2018

</TRAILER_SECTION>

<LAYOUT_SECTION>

1.FIELD_TITLE

FIELD_SUMMARY

</LAYOUT_SECTION>

<TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

2.FIELD_TITLE

</TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

<HEADING_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

</HEADING_LAYOUT_SECTION>

<TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

FIELD_SUMMARY

</TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

<COMMENT_LAYOUT_SECTION>

FIELD_SUMMARY

</COMMENT_LAYOUT_SECTION>

 

<SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

2.1FIELD_TITLE

FIELD_SUMMARY

</SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

 

<TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

2.2FIELD_TITLE

</TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>